Dyna beth gall Sgript
ei ddarparu ar gyfer disgyblion eich hysgol chi.
Dau o gyn staff adran Newyddion BBC Cymru fydd yn treulio’r diwrnod gyda’ch disgyblion, yn eu tywys ar hyd y siwrne o ganfod, creu a darlledu.
Mae gan y newyddiadurwraig Rebecca Hayes a’r dyn camera Guto Orwig ddegawdau o brofiad darlledu Newyddion.
Mewn awyrgylch addysgu hwyliog, fe fyddan nhw’n rhannu eu profiad ymchwil, cyfweld, sgriptio, ffilmio a golygu gyda’ch disgyblion chi.
Wrth ddysgu sgiliau holi, cyfarthrebu, ysgrifennu a rhai technegol fe fydd disgyblion yn magu sgiliau gwerthfawr ar gyfer eu gwaith yn yr ysgol ac yn eu bywyd bob dydd.
Gall y gweithdy fod o gymorth wrth gyflawni amryw o feini prawf y Siarter Iaith.
A beth am ddefnyddio'r doniau yma i sefydlu clwb teledu yn eich ysgol chi...
Neu i greu eitemau newyddion rheolaidd i’w darlledu ar wefan yr ysgol neu sianel Youtube…
Beth am gynhyrchu rhaglen gyfan bob tymor a’i darlledu i gynulledifa o rieni a chyfeillion…
Neu tybed oes lle i greu ffilm yn seiliedig ar thema sy’n cael ei hastudio, a chyfweld cyfrannwyr y tu hwnt i furiau’r ysgol?
Mae’r posibiliadau’n eang ac yn eich dwylo chi.
Pwy a wyr ble’r aiff siwrne sy’n dechrau yng nghwmni Sgript!