Pwy yw eich cynulleidfa?Beth yw eich neges?Sut ydych chi’n trosglwyddo eich neges?
Oherwydd ein profiad helaeth o recordio ystod eang o gyfweliadau teledu a radio, 'rydym yn deall beth sy’n creu cyfathrebwr llwyddiannus.
Rhaid :
Deall eich cynulleidfa, a phenderfynnu beth yw eich nôd.
Creu cysylltiad emosiynol.
Strwythuro eich cynnwys a’ch perfformiad i sicrhau taw’r neges yr ydych chi’n ei throsglwyddo, yw’r un un ag y mae’r gynulleidfa’n ei chlywed.
Drwy hyfforddi gyda Sgript, cewch gyfle i fabwysiadu’r sgiliau hyn, a llu o rai eraill. Byddwn yn ffilmio eich perfformiadau er mwyn rhoi cyfle i chi weld yr hyn mae eich cynulleidfa’n ei weld.
Defnyddiwch bob cyfle i gyfathrebu i’w lawn botensial.