Radio

Cynhyrchu Radio.

Wedi torri eu dannedd yn cynhyrchu rhaglenni Materion Cyfoes tra'n rhan o staff BBC Cymru, mae Rebecca a Guto, yn enw Sgript, bellach yn cyflenwi rhaglenni radio i BBC Cymru fel cynhyrchwyr annibynol.

"Spanish Row" oedd eu comisiwn cyntaf, rhaglenni oedd yn olrhain hanes Sbaenwyr o Bilbao a ymsefydlodd yng nghymuned Abercraf yn nhopie Cwmtawe yn nechrau'r Ugeinfed ganrif.
Wrth greu'r rhaglenni rhain, roedd galw am y gallu i gwblhau ymchwil hanesyddol o safon, yn ogystal a'r ddawn i ddweud stori mewn modd oedd yn tynnu llun byw i'r gynulleidfa. 

Prosiect diweddaraf Sgript i BBC Cymru, yw "Rhyfel y Plant". Dyma rhaglen fydd, wrth nodi Canrif ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, yn ystyried beth oedd effaith y Rhyfel Mawr ar blant y cyfnod. Caiff ei chyflwyno gan Iestyn Jones, sy’n 12oed. 

Oherwydd eu profiad teledu, mae Sgript hefyd yn gallu cynhyrchu deunudd hyrwyddo fideo i gefnogi eu rhaglenni radio.
...........

Radio Production

With experience of producing Current Affairs radio programmes whilst at the BBC, Rebecca and Guto now produce radio content for BBC Wales as independent producers at Sgript.

Their first commission was “Spanish Row”. These programmes considered the effect that a community of Spaniards who migrated from Bilbao to Abercrave in the Swansea valley at the beginning of the 20th century, had upon the area.
Producing this series required an ability to conduct correct historical research, in addition to lively story-telling.

“The Children’s War” will be Sgript’s next project. As 2018 marks the centenary of the end of WW1, Sgript considers what effect that war had upon the life of an ordinary child. It will be presented by 12 year old Iestyn Jones.

Sgript is also able to produce promotional video material to support it’s radio programmes.

Share by: